Y cefndir: 

Fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor, mae tîm Allgymorth y Cynulliad wedi bod yn cynnal grwpiau ffocws gydag amrywiaeth o grwpiau ledled Cymru. Casglwyd cyfraniadau gan benaethiaid, llwyodraethwyr ac athrawon ysgolion cynradd ac uwchradd, ac un ysgol arbennig. Daeth y cyfranogwyr o’r ardaloedd lle mae’r pedwar Consortia Addysg Ranbarthol yn gweithredu.

 

Cynhaliodd y tîm Allgymorth naw sesiwn, gan ymgysylltu â grwpiau o Wynedd, Powys, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Merthyr Tudful, Bro Morgannwg, Blaenau Gwent a Thorfaen, ynghyd â phwyllgor Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT) Cymru a oedd yn cynrychioli penaethiaid o bob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae sylwadau’r 117  o bobl a gyfrannodd wedi'u crynhoi fesul thema.

 

Canolbwyntiodd sesiynau’r grwpiau ffocws ar gyllid y Grant Datblygiad Disgyblion (PDG) gan fod hwn yn berthnasol i'r holl gyfranogwyr. Fodd bynnag, os oedd cyfranogwyr wedi cael cyllid Ysgolion Her Cymru, gofynnwyd am eu barn am y rhaglen hon hefyd.

 

 

Crynodeb o’r prif themâu a’r cyfraniadau

1.    Defnyddio’r Grant Datblygu Disgyblion

Staff

"Galluogi staff addysgu i ganolbwyntio ar Addysgu a Dysgu drwy ariannu staff cymorth cymdeithasol / emosiynol i ddelio â phroblemau."

Roedd cyfranogwyr ym mhob sesiwn, ym mhob lleoliad, yn dweud bod y rhan fwyaf o’r Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei wario ar gyflogi staff. Roedd y Grant yn talu am staff ychwanegol fel cynorthwywyr cymorth dysgu ar gyfer ymyriadau, cymorth dwys ym maes llythrennedd a rhifedd, a mentoriaid personol. Roedd hefyd yn talu am gymorth o fath arall fel swyddogion presenoldeb a swyddogion cyswllt teuluol, cymorth ELSA, cymorth ADY a chymorth emosiynol / cymdeithasol. Soniodd eraill am roi cymorth i ddisgyblion mwy abl drwy drefnu i staff neilltuo amser ychwanegol iddynt.

"Cymhellion - hybu presenoldeb, mwy o ymrwymiad i ddysgu."

I'r cyfranogwyr hynny a oedd yn cael dim ond ychydig o gyllid PDG, nid oedd yn bosibl ei wario ar staffio bob amser felly roeddent yn gwario’r rhan fwyaf o’u cyllideb ar adnoddau fel offer TGCh a theithiau ysgol i ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Hyfforddiant

Roedd y PDG yn cael ei wario’n aml ar hyfforddiant hefyd. Trefnwyd hyfforddiant HMS ar ymwybyddiaeth ofalgar a lles mewn rhai ysgolion, ac roedd eraill yn hyfforddi staff mewn ffordd a allai ychwanegu gwerth, fel Ysgolion Coedwig a ‘Thrive’.

Cyfarpar

Ar ôl staffio a hyfforddiant, roedd ysgolion yn gwario’u PDG ar amrywiaeth o adnoddau fel iPads, costau cludo disgyblion i glybiau allgyrsiol, clybiau brecwast ac ar ôl ysgol, teithiau ysgol, gwisg ysgol, adnoddau adolygu a meddalwedd ‘Language Links’. Roedd cyfranogwyr hefyd yn credu bod gweithgareddau fel gwersi cerddoriaeth a gweithdai dawns a drama yn werthfawr.

"Gallai ymyrraeth olygu rhaglenni i ddisgyblion sydd ar ei hôl hi o ran  llythrennedd a mathemateg, darpariaeth ar ôl ysgol at y diben hwnnw, dysgu grwpiau bach ar wahân i weddill y dosbarth, gwella hunan-barch a gwaith bugeiliol, cwnsela, clybiau gwaith cartref."

 

 

2.   Pwy sy'n elwa o'r PDG yn eich ysgolion?

Mwy na dim ond disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim

"Fel arfer, mae'n amhosibl targedu dim ond disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, heb gynnwys disgyblion eraill y mae angen cymorth arnynt."

Y brif thema, a gododd ym mhob sesiwn, ym mhob rhan o'r wlad, oedd nad yw cyllid PDG yn cael ei ddefnyddio dim ond i gynorthwyo disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Er bod y PDG yn cael ei ddefnyddio i dalu am ymyriadau i helpu disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, roedd pob grŵp yn cytuno eu bod yn ymestyn yr adnoddau hyn i gynorthwyo disgyblion anghenus eraill nad ydynt, o reidrwydd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.   

"Nid yw disgyblion sy'n agored i niwed bob amser yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim."

Roedd rhai cyfranogwyr yn medru gwneud hyn drwy gynnwys disgyblion nad ydynt yn sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim mewn grwpiau llai sy’n elwa ar ymyriadau, neu drwy dalu iddynt fynd ar dripiau ysgol.

Soniodd pob grŵp am ddisgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol gan eu bod ychydig uwchlaw’r trothwy perthnasol,  ond bod angen cymorth ychwanegol arnynt. Gan ddibynnu ar faint o arian a gafodd yr ysgol, roedd yr holl gyfranogwyr yn ceisio sicrhau bod y disgyblion hyn yn cael y cymorth angenrheidiol. Weithiau, wrth gwrs, roeddent yn cael llai o arian oherwydd mai ychydig o’u disgyblion oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac nid oedd modd ymestyn yr adnoddau’n ddigon pell.

"Mae’r cyfuniad o bwysau ar gyllideb y cyngor yn golygu bod angen i ni wasgaru’r PDG yn ehangach o hyd."

Yn gyffredinol, cytunodd y cyfranogwyr nad oedd nifer y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn adlewyrchu gwir nifer y disgyblion difreintiedig na'r disgyblion y mae angen cymorth ychwanegol arnynt.

Plant sy'n derbyn gofal, ADY a disgyblion mwy abl a thalentog

Cyfeiriodd nifer o grwpiau hefyd at y ffaith nad oes cyllid ychwanegol ar gael yn y PDG ar gyfer plant sy'n derbyn gofal ac roedd hyn yn creu problemau i ysgolion.

"Mae disgyblion syn derbyn gofal yn aml yn disgyn drwy'r bwlch gan nad ydynt yn cael cymorth drwy’r PDG."

Teimlai llawer fod hyn wedi bod yn gamgymeriad a bod mwy o bwysau ar gyllid presennol y PDG i sicrhau bod anghenion plant sy'n derbyn gofal hefyd yn cael eu diwallu.

Codwyd pwynt tebyg mewn perthynas â chynorthwyo disgyblion ag ADY. Dywedodd un grŵp fod eu PDG yn cael ei wario’n bennaf ar ddeunyddiau ADY, gan fod plant yn aml yn perthyn i'r ddau gategori.

"Caiff y PDG ei ddefnyddio i ariannu ADY."

Yn olaf, soniodd nifer o grwpiau am y manteision i ddisgyblion mwy abl a thalentog ond roeddent yn teimlo bod y grŵp hwn yn cael ei ddiystyru weithiau gan fod y cyllid yn aml yn cael ei dargedu at ddisgyblion is eu gallu. Soniodd rhai grwpiau am yr amser staff ychwanegol yr oeddent wedi ei ddyrannu drwy gyllid y PDG i roi cymorth i ddisgyblion mwy abl, ond roedd y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr yn teimlo ei bod hi'n anoddach targedu'r grŵp arbennig hwn.

"Grant ‘datblygu’ disgyblion yw hwn - beth am grwpiau uchel eu gallu? '

 

3.   A yw'r dull hwn o dargedu cyllid yn gweithio?

Dull

 "Un o'm prif ofnau pan welaf gyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru yw y byddwn yn colli'r PDG. Mae'n ychwanegu gwerth sylweddol i’n hysgol ni. "

Yn dilyn trafodaethau ynghylch pwy oedd yn elwa o arian y PDG, roedd pob grŵp yn cytuno’n gryf bod targedu cyllid yn gweithio mewn egwyddor, ac y dylid neilltuo swm penodol ar gyfer y PDG.

Fodd bynnag, teimlai'r rhan fwyaf o’r grwpiau fod angen adolygu’r modd y caiff y PDG ei gyfrifo.

 "Dyma'r dangosydd hawsaf i’w ddefnyddio i fesur angen ond hwn hefyd yw’r lleiaf dibynadwy. Nid yw'n ddangosydd diogel. "

Er bod yr holl gyfranogwyr yn cytuno â’r egwyddor o dargedu cyllid i helpu disgyblion difreintiedig fel ffordd o geisio cau'r bwlch tlodi, roeddent o'r farn bod y system seiliedig ar brydau ysgol am ddim yn ffordd rhy syml o bennu cyllid ac, fel arfer, roedd yn gadael bwlch yn y canol lle’r oedd disgyblion nad oeddent yn  gymwys i gael prydau ysgol am ddim ond, er hynny, roedd angen cymorth ychwanegol arnynt.   

"Mae'r rhai sydd ychydig uwchlaw’r trothwy ar eu colled."

 

Awgrymodd rhai grwpiau y gellid mynd i'r afael â hyn drwy ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru fel dull arall o gyfrifo, er bod grwpiau mewn ardaloedd eraill yn teimlo’n gryf na fyddai hyn ddim tecach na seilio’r cyllid ar nifer y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Awgrymodd nifer o grwpiau y dylid defnyddio dull tebyg i system Forever 6 a ddefnyddiwyd yn Lloegr lle cafodd disgyblion eu hariannu am nifer o flynyddoedd os cawsant eu dynodi’n ddisgyblion FSM ryw dro.

 "Mae bwlch yn y canol rhwng disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a theuluoedd sydd ychydig uwchlaw’r trothwy hwnnw - nid yw'r disgyblion hyn yn derbyn unrhyw gymorth."

Amharodrwydd i hawlio prydau ysgol am ddim a stigma

Soniodd y rhan fwyaf o’r grwpiau hefyd fod amharodrwydd i hawlio prydau ysgol am ddim yn gryn broblem. Teimlai nifer fod stigma ynghlwm wrth hawlio prydau ysgol am ddim ac, o ganlyniad, er bod rhai disgyblion yn gymwys, nid oeddent yn eu cael.

Cyfeiriodd o leiaf hanner y grwpiau hefyd at y ffaith bod nifer y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn amrywio’n gyson wrth i amgylchiadau teuluol newid ac oherwydd anghysondeb yn eu patrymau gweithio. Gan hynny, roedd cynnydd yn nifer y disgyblion yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt ond nad oeddent yn gymwys i hawlio prydau ysgol am ddim.

Mwy o hyblygrwydd

O ganlyniad, teimlai'r rhan fwyaf o’r grwpiau fod angen mwy o hyblygrwydd er mwyn diwallu anghenion yr holl ddisgyblion. Roedd gan ysgolion gwahanol flaenoriaethau gwahanol ac er bod yr holl gyfranogwyr yn cydnabod ei bod yn bwysig i ysgolion fod yn atebol am yr arian y byddant yn ei wario, roedd rhai grwpiau’n teimlo nad oedd y Llywodraeth yn ymddiried yn yr ysgolion i ddefnyddio’r grant yn y modd roedden nhw’n teimlo oedd yn briodol.

"Hoffwn i'r atebolrwydd fod yn llai biwrocrataidd gan ei seilio mwy ar ymddiriedaeth broffesiynol."

Roedd y mwyafrif o'r farn ei bod yn bwysig parhau i glustnodi’r grant ond bod angen llai o ganllawiau. Hefyd, byddai’n haws i’r ysgolion wario’r arian yn effeithiol pe bai’r Llywodraeth yn  ymddiried ynddynt i wario’r arian er budd y plant.

 

 

 

 

4.   A yw'r arian hwn yn helpu i wella canlyniadau addysg?

Cyrhaeddiad addysgol

 "Mae’n gwbl allweddol i gyrhaeddiad disgyblion. Wn i ddim lle y byddem ni hebddo. Mwy os gwelwch yn dda. "

Cytunodd pob un o'r cyfranogwyr fod y PDG wedi helpu i wella cyrhaeddiad addysgol disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Roedd y cyfranogwyr unigol yn glir, fodd bynnag, fod effaith y grant yn dibynnu ar nifer y disgyblion hyn yn yr ysgol.

"Mewn lleoliad gwledig, weithiau nid oes digon o ddisgyblion i’r grant gael yr effaith a ddymunir."

Mesurau ychwanegol

Trafododd nifer o'r grwpiau hefyd yr effaith feddalach a gafodd y grant ar eu disgyblion gan bwysleisio na ddylid mesur ei effaith yn ôl cyrhaeddiad addysgol yn unig, ond hefyd ar ddatblygiad  cymdeithasol ac emosiynol y disgyblion.

Arweiniodd hyn at drafodaethau ymhlith llawer o'r grwpiau ynghylch pa mor anodd yw mesur effaith y grant dros gyfnod o flwyddyn yn unig a theimlai'r rhan fwyaf o'r cyfranogwyr y dylai'r arian gael ei ddyrannu dros gyfnod hwy i’w gwneud yn haws mesur ei effaith a chynllunio.

"Nid yw’n cau'r bwlch o reidrwydd ond mae'n atal y bwlch rhag ehangu, ac mae hynny’n bwysig."

 

5.  Y problemau

Grant blynyddol

"Byddai’n braf canolbwyntio ar ganlyniadau hirdymor yn hytrach na disgwyl canlyniadau tymor byr.  Mae angen ymyriadau hirdymor os yw’r problemau wedi  ymwreiddio’n ddwfn. "

Un o’r prif broblemau y cyfeiriwyd ati gan bron bob grŵp oedd mai grant blynyddol oedd y PDG. O gofio bod y rhan fwyaf o'r arian yn cael ei wario ar staff, roedd hyn yn creu problemau o ran cytundebau cyflogaeth, sicrhau cysondeb i'r disgyblion a sicrhau gwerth am yr arian a wariwyd ar hyfforddiant.

"Mae cynllunio hirdymor o fewn paramedrau'r grant yn her. Mae'r newidiadau cyson mewn niferoedd a'r diwylliant grant yn golygu nad oes modd rhoi trefniadau cynaliadwy ar waith yn yr ysgolion. "

Ynghyd â'r problemau o ran cynllunio a mesur effeithiau hirdymor y PDG, roedd y cyfranogwyr, ar y cyfan, yn teimlo y dylai'r arian gael ei ddyrannu dros gyfnod hwy.

Cofnodi

Yn dilyn hyn roedd problem yn ymwneud â chofnodi’r effeithaiu. Roedd y rhan fwyaf o’r grwpiau’n teimlo bod anghysondeb yn y wybodaeth y mae asiantaethau gwahanol yn gofyn amdani, ac mae’n ychwanegu at bwysau llwyth gwaith sydd eisoes yn drwm. Roedd bron pob un wedi cael ceisiadau gwahanol gan Ymgynghorwyr Her, swyddogion ALl ac adroddiadau Estyn.

Roedd yr ysgolion arbennig hefyd yn teimlo'n gryf y gallai fod yn niweidiol eu cymharu nhw ag ysgolion prif ffrwd o ran dangos y gwerth y mae’r PDG yn ei ychwanegu mewn ysgolion arbennig.

Pwysau ar gyllidebau craidd

 "Mae’r PDG yn celu’r ffaith nad yw cyllideb ysgolion yn ddigonol."

Ym mhob sesiwn, soniodd y cyfranogwyr fod y PDG yn celu’r ffaith nad yw’r cyllidebau craidd yn ddigonol a’i fod yn atal diswyddiadau.

"Nid adnodd ychwanegol yw’r PDG bellach, ond cyllideb graidd ar newydd wedd."

Cytunodd pob grŵp na all y math hwn o gyllid weithio oni bai bod digon o gyllid craidd ar gael. Soniodd pob un o'r cyfranogwyr am y tensiwn rhwng cyllidebau a bod y pwysau ar y PDG yn cynyddu wrth i'r gyllideb graidd leihau.

Roedd y cyfranogwyr yn delio â hyn mewn ffyrdd gwahanol. Roedd rhai yn gwrthsefyll y pwysau gan eu llywodraethwyr i ddefnyddio’r PDG ar gyfer adnoddau a oedd, fel arfer, yn cael eu cynnwys o dan y cyllidebau craidd. Roedd eraill yn teimlo nad oedd ganddynt unrhyw ddewis ond defnyddio'u PDG yn greadigol i ategu eu cyllidebau craidd.

"Mae’r PDG yn llenwi bylchau yn y cyllidebau craidd ac ni all cyllid wedi'i dargedu fel hyn weithio oni bai bod digon o gyllid mewn meysydd eraill."

 

6. Her Ysgolion Cymru

Ar ddiwedd un o sesiynau’r grwpiau ffocws, cafwyd sylwadau gan bennaeth a chadeirydd llywodraethwyr ysgol a oedd yn rhan o raglen Her  Ysgolion Cymru:

Roeddent yn teimlo bod y cyllid yn eithaf ysbeidiol ar y dechrau, ond roedd yn caniatáu iddynt dargedu ymyriadau’n effeithiol. Roedd cyrhaeddiad Lefel 2 wedi cynyddu’n sylweddol oherwydd y cyllid, ond bu gostyngiad o 42% pan ddaeth yr arian i ben.

Ni allai Llywodraeth Cymru ddisgwyl yr un lefel o gyrhaeddiad wedi i’r arian ddod i ben gan ei fod yn ychwanegu at gapasiti a hynny, yn ei dro, yn gwella perfformiad. Roeddent yn teimlo bod perfformiad yr holl ysgolion wedi dirywio.

Nodwyd bod yn rhaid gwario'r arian ymhen dwy flynedd neu byddai'n cael ei golli. Roedd ysgolion yn tybio y byddai'r cyllid yn parhau ac roedd hynny’n dylanwadu ar y ffordd y gwariwyd yr arian. Nid oedd unrhyw strategaeth i ymdopi â’r sefyllfa pan fyddai’r arian yn dod i ben ac roedd yn rhaid i ysgolion ymdrin â phethau fel diswyddo staff eu hunain.

Ar y cyfan, roeddent yn teimlo bod yr arian yn ddefnyddiol, ond roeddent yn ansicr ynghylch pa mor ddefnyddiol oedd y cymorth a gynigiwyd - roeddent yn teimlo bod gormod o ymgynghorwyr.

 

Roedd ysgol arall yn bwydo ysgol uwchradd a oedd yn rhan o raglen Her Ysgolion Cymru:

Roeddent yn deall y byddai peth o'r cyllid yn cael ei ddefnyddio i wella'r cysylltiadau rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd berthnasol. Fodd bynnag, nid oedd hyn wedi digwydd ac roedd hynny’n siomedig.

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad

Yn ystod yr ymchwiliad hwn, bu'r tîm Allgymorth yn gweithio gyda'r grwpiau a restrir isod i geisio barn penaethiaid a llywodraethwyr. Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd at y broses hon.

-      Llywodraethwyr Cymru

-      Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru

-      Grŵp Gwella Llywodraethwyr Clwstwr De Merthyr Tudful

-      Pwyllgor Gweithredol Cymdeithas Llywodraethwyr Ysgol y Fro

-      Cymdeithas Llywodraethwyr Gwynedd

-      Cymdeithas Cyrff Llywodraethu Abertawe

Trefn y gweithdai

Gofynnwyd y cwestiynau a ganlyn i’r cyfranogwyr fel rhan o’r sesiynau grŵp ffocws:

·         Sut y mae arian y PDG yn cael ei wario ar hyn o bryd yn eich ysgol? Pwy sy'n dyrannu'r gyllideb / pwy sy'n gyfrifol am yr arian?

 

·         Beth sy'n cael ei brynu â'r arian? Pwy sy'n elwa o'r adnoddau hyn?

 

·         Ydych chi o'r farn bod y cyllid yn effeithio ar ganlyniadau addysg disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim? 

 

·         A yw'r dull hwn o dargedu cyllido yn gweithio? 

 

·         A ydych chi'n cyfuno cyllid y PDG â chyllidebau eraill yr ysgol i ariannu mentrau ar gyfer yr holl ddisgyblion? 

 

·         Beth yw’r anawsterau sydd ynghlwm wrth y rhaglen? A oes anawsterau o ran pa mor gymwys yw’r gweithgareddau / derbynyddion er enghraifft?